Wrth deithio o gwmpas Cymru a siarad am Rhannu Cartref, mae’n anhygoel faint o bobl sy’n dweud wrthych chi, ‘fe wnes i rywbeth fel ‘na pan o’n i’n iau,’ neu ‘mae rhywun dwi’n nabod wedi cymryd person ifanc i mewn.’ Mae’n ymddangos bod pontio’r cenedlaethau wedi digwydd erioed ac fel yna y bydd pethau, felly dylen ni yn Homeshare UK ddathlu hynny!

Er ein bod yn aml yn clywed straeon sy’n gosod un genhedlaeth yn erbyn y llall gan  achosi rhaniad ac ysgogi gwahaniaethu, roedden ni’n meddwl y byddai’n wych casglu straeon am sut mae’r cenedlaethau wedi dod at ei gilydd a byw gyda’i gilydd. Wnaethoch chi rannu tŷ gyda pherson hŷn pan oeddech chi yn y brifysgol neu pan ddechreuoch chi weithio? Ydych chi wedi agor eich cartref a’i rannu gyda pherson iau oedd angen llety?  Byddem wrth ein boddau’n clywed eich atgofion. Beth oedd yn dda amdano, beth oedd yn gweithio, ydych chi wedi cadw mewn cysylltiad?

Yn aml rydyn ni’n clywed straeon am bobl nad oedd yn perthyn i’w gilydd yn byw gyda’i gilydd ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod nifer o bobl ifanc yn cael eu magu gan eu neiniau a’u teidiau a byddem hefyd wrth ein boddau’n clywed ganddyn nhw.

Anfonwch eich straeon, atgofion, dyfyniadau at tim@sharedlivesplus.org.uk a’u postio ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #DanUnTo #UnderOneRoof

Gadewch i ni ddathlu’r cenedlaethau yn pontio a byw gyda’i gilydd, ym mha bynnag ffurf, a dangoswch fod ein bywydau’n gwella pan fyddan nhw’n cael eu rhannu.

Read this in English