Mae Homeshare UK, fel rhan o’n sefydliad ehangach, Cysylltu Bywydau a Mwy, yn un o dros 70 o sefydliadau ac elusennau yn Lloegr sy’n galw am greu Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer Lloegr.

Gan fod Comisiynydd o’r fath wedi bod yng Nghymru ers pymtheng mlynedd, roedden ni’n meddwl y bydden ni’n gofyn i Tim Crahart, ein Swyddog Datblygu Homeshare UK yng Nghymru, rannu ei farn am y gwahaniaeth mae hyn wedi ei wneud i Gymru ac, yn arbennig, i bobl hŷn y wlad.

Y cyntaf yn y byd

Ruth Marks oedd y Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf yng Nghymru ac fe’i penodwyd yn 2008. Pan ddechreuodd y swydd hon, hi oedd nid yn unig y Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf yng Nghymru ond hefyd yn y byd.

Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, canolbwyntiodd ar amrywiaeth o faterion allweddol fel urddas a pharch mewn ysbytai, amddiffyn pobl hŷn rhag camdriniaeth, a hyrwyddo llais pobl hŷn. Dilynwyd Ruth wedyn gan Sarah Rochira yn 2012. Treuliodd Sarah lawer o amser yn ei rôl yn ymgysylltu â phobl hŷn, ac aeth ati i gynnal yr adolygiad mwyaf o brofiadau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a gynhaliwyd yng Nghymru erioed. Llwyddodd hefyd i ddatblygu’r Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru ynghyd ag adroddiadau eraill a gwaith ymchwil.

Penodwyd ein Comisiynydd diweddaraf, Heléna Herklots CBE, i’r rôl yn 2018, ac mae wedi parhau â gwaith ei rhagflaenwyr. Mae adroddiad Cyflwr y Genedl, a gyhoeddir ganddi bob dwy flynedd, yn fesurydd go iawn o brofiadau pobl hŷn Cymru ac roedd yr un olaf, a gyhoeddwyd yn 2021, yn rhoi darlun clir o effeithiau’r pandemig ar bobl hŷn yma. Tynnodd sylw hefyd at effaith unigrwydd ac ynysu ar lawer o bobl hŷn a’r gwahaniaethu sy’n wynebu llawer ohonynt.

Ychwanegu bywyd at flynyddoedd

Blaenoriaethau presennol y Comisiynydd Pobl Hŷn yw:

  • gwarchod a hyrwyddo hawliau pobl hŷn,
  • rhoi diwedd ar ragfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran,
  • atal camdriniaeth pobl hŷn,
  • a galluogi pawb i heneiddio’n dda.

Ar y pwynt olaf hwnnw, yn ôl Helena mae’n ymwneud ag “ychwanegu bywyd at flynyddoedd, nid dim ond blynyddoedd at fywyd” ac mae hyn yn rhywbeth sy’n taro deuddeg gyda ni yn Rhannu Cartref. Credwn fod y model Rhannu Cartref yn cyfrannu at gael bywyd gwerth byw drwy gwmnïaeth, rhyngweithio cadarnhaol a thrwy helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Synergedd Rhannu Cartref

Mae yna hefyd synergedd yng ngwaith y Comisiynydd gyda Rhannu Cartref wrth herio’r ystrydebau di-fudd hynny a welwn mor aml yn y cyfryngau, sy’n ceisio codi cynnen rhwng yr hen a’r ifanc. Rydyn ni’n deall manteision y cenedlaethau yn rhannu eu bywydau, eu sgiliau a’u profiadau gyda’i gilydd ac mae hyn yn rhywbeth y mae’r Comisiynydd yng Nghymru hefyd  yn ei hyrwyddo yn ei gwaith.

Mae cael rôl sy’n gallu herio arferion a pholisi, amddiffyn hawliau pobl hŷn a chynnal eu lleisiau yn hanfodol yn ein cymunedau ac o fudd i’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw.

Dyna pam mae Homeshare UK yn cefnogi creu swydd Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer Lloegr. Gallwch ddysgu mwy ac ychwanegu eich llais at yr ymgyrch, fel grŵp neu unigolyn yn: https://bit.ly/COPAsupport