Yn dilyn ein newyddion yn yr wythnosau diwethaf am ddatblygu Rhannu Cartref yn yr Alban, rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod yn bwriadu dod â Rhannu Cartref i Gymru hefyd, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru!

Mae Rhannu Cartref yn cyfoethogi bywydau y Deiliad Tŷ a’r Rhannwr Tŷ, gan feithrin cysylltiadau ar draws y cenedlaethau a chysylltu pobl â’u cymunedau lleol. Mae’n fodel cymorth a Thai sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd yng ngweddill y DU.

Bydd cael darpariaeth leol ymroddedig yn sicrhau bod Rhannu Cartref ar gael i gynifer o bobl ledled y DU ac rydym ni’n croesawu’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru wrth gydnabod y manteision y gallai Rhannu Cartref eu cynnig i bobl o bob cenhedlaeth yng Nghymru.

Erbyn mis Mawrth 2024, ein nod yw sefydlu’r tair rhaglen beilot Rhannu Cartref ledled y wlad, gan alluogi pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain am hirach, a galluogi pobl iau i gael llety o ansawdd da, a lleihau faint o bobl sy’n teimlo’n ynysig ac yn unig drwy ddod â phobl sydd am rannu eu bywydau a chartrefi at ei gilydd.

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a gyda’r Polisi Cysylltu Cymunedau yn sail i’r gwaith, bydd ein Swyddog Datblygu Rhannu Cartref ymroddedig yn:

 

  • Gweithio gyda grwpiau o bobl hŷn ac iau a phartneriaid o’r sector Gwirfoddol a Chymunedol i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb a nodi safleoedd peilot yng Nghymru.
  • Cefnogi’r gwaith o sefydlu a datblygu tair rhaglen beilot.
  • Creu cymuned Rhannu Cartref sy’n ffynnu ledled y wlad.

Os ydych chi am gael clywed mwy am ein cynlluniau datblygu ar gyfer Cymru, cysylltwch â: Kathryn Morgan, Rheolwr Datblygu Rhannu Cartref a Chysylltu Bywydau Cymru ar 07867 452 158 neu kathryn@sharedlivesplus.org.uk