Yn ystod y gwanwyn eleni, mae’r gwasanaeth Rhannu Cartref cyntaf yng Nghymru yn dechrau, gan godi gwên werth baru pobl hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain gyda’r rhai sy’n chwilio am lety fforddiadwy yn Abertawe a’r cyffiniau.

Daw’r newyddion wrth i wir hyd a lled unigrwydd yn y DU ddod i’r amlwg. Mae pobl hŷn yng Nghymru am fyw gartref yn hirach. Yng Nghymru, dywedodd 54% o bobl 60-74 oed a 49% o bobl 75+ oed, eu bod yn teimlo’n unig o bryd i’w gilydd (ONS).

Mae Homeshare UK a Rhannu Cartref Abertawe, sy’n rhan o Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, yn lansio’r rhaglen beilot gyntaf yng Nghymru i gynnig y cyfle i fwy o bobl fyw yn gymdeithasol a fforddiadwy, beth bynnag fo’u hoedran, gyda’r strwythurau cymorth priodol ar waith i’w wneud yn brofiad diogel a phleserus.

Mae Rhannu Cartref, yn gweithio drwy baru pobl gyda’i gilydd i gefnogi’r naill a’r llall; bydd person ag ystafell sbâr ac sy’n chwilio am gwmni a rhywfaint o gymorth ymarferol yn rhannu ei gartref gyda rhywun sy’n chwilio am lety fforddiadwy. Meddai Roxane Dacey o Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe:

“Mae Rhannu Cartref yn ffordd o ddod â dau grŵp ynghyd i ddiwallu anghenion ei gilydd drwy ddefnyddio cryfderau ei gilydd, hyrwyddo cymunedau cryfach a chynnig cymorth i’w gilydd. Mae Rhannu Cartref Abertawe gyda chymorth gan Homeshare UK yn gobeithio gallu sefydlu 26 o barau rhannu cartref fel hyn yn y ddwy flynedd gyntaf.”

Meddai Dave Howes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Gwynedd:

“Rydyn ni’n falch iawn o weld lansio rhaglen Rhannu Cartref Abertawe gyda’n partneriaid yng Nghyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe. Mae annibyniaeth ymysg pobl hŷn mor bwysig i ansawdd bywyd pobl, ac mae’r prosiect hwn, a all leihau unigrwydd, yn darparu cymorth lefel isel er mwyn galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain am hirach, a chynnig llety fforddiadwy, wedi’i amseru’n dda iawn ac mae croeso mawr iddo.”

Rhagor o wybodaeth ac ymholiadau