Y gaeaf hwn, bydd y trydydd gwasanaeth Rhannu Cartref yng Nghymru yn dechrau, gan ddod â phobl at ei gilydd er budd pawb. Bydd pobl hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain yn cael eu paru â’r rhai sy’n chwilio am lety fforddiadwy yng Ngwynedd.

Ar ôl sefydlu’r ddwy raglen beilot gyntaf yn Abertawe a Sir Benfro, roedd Homeshare UK yn awyddus i’r drydedd raglen beilot a’r un olaf gael ei chynnal yn y Gogledd.

Yng Nghymru, dywedodd 54% o bobl 60-74 oed a 49% o bobl 75+ oed, eu bod yn teimlo’n unig o bryd i’w gilydd (ONS). Mae Gwynedd yn ardal wledig lle mae 28% o’r boblogaeth dros 65 oed ac mae pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal. Mae llawer yn chwilio am rywfaint o gymorth ychwanegol a dyna beth fydd Rhannu Cartref yn ei gynnig.

Lansiad Rhannu Cartref Gwynedd / Homeshare Gwynedd Launch

Bydd y rhaglen Rhannu Cartref yng Ngwynedd yng ngofal Cyngor Gwynedd; yr awdurdod lleol. Bydd Rhannu Cartref Gwynedd Homeshare yn cael ei lansio’n anffurfiol i ddechrau yng Nghynhadledd Pobl Hŷn Gwynedd ddydd Iau 17 Tachwedd. Yna, bydd yn cael ei lansio ar-lein ddydd Mercher 11 Ionawr, a gallwch gofrestru i fynychu’r digwyddiad drwy ddilyn y ddolen hon https://www.eventbrite.co.uk/e/lansiad-rhannu-cartref-gwynedd-homeshare-gwynedd-launch-tickets-464302881417

Mae’r recriwtio wedi bod ar waith yn Abertawe hefyd ac mae cydlynydd wedi’i phenodi. Ei henw yw Ruth Robinson ac rydym yn edrych ymlaen at ei chroesawu i rwydwaith Homeshare UK a gweithio’n agos gyda hi i sicrhau bod Rhannu Cartref Abertawe yn llwyddiant.

Rydym ni’n falch iawn o lansio’r rhaglen beilot olaf a chael y tair rhaglen Rhannu Cartref ar waith.