Mae’r Dydd Gŵyl Dewi hwn yn dathlu lansiad llwyddiannus tri chynllun Homeshare ledled Cymru, yn Abertawe, Sir Benfro a Gwynedd, gan gynnig cyfle i fwy o bobl fyw yn gymdeithasol ac yn fforddiadwy, beth bynnag eu hoedran.

Nod y rhaglenni ydi mynd i’r afael â materion allweddol ym maes cymdeithas fel unigrwydd ac unigedd yn ogystal â’r argyfwng tai. Yng Nghymru dywedodd 54% o bobl rhwng 60-74 a 49% o bobl 75+ oed, eu bod yn teimlo’n unig weithiau (ONS) ond maent eisiau aros i fyw gartref am gyfnod hirach. Mae pobl iau yn cael eu prisio allan o’r pentrefi, trefi, a dinasoedd maent eisiau byw ynddyn, ar gyfer gwaith neu astudio.

Bydd pobl hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain yn cael eu paru gyda’r rhai sy’n chwilio am lety fforddiadwy gan dair rhaglen Homeshare Cymru.

Cysylltu â ni

Os ydych yn adnabod rhywun allai gael budd o Homeshare yng Nghymru, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod:

Mae Rhannu Cartref Gwynedd Homeshare yn rhan o Cyngor Gwynedd – cysylltwch â nhw trwy e-bost ar rhannucartref@gwynedd.llyw.cymru 

Ewch i Pembrokeshire Homeshare, rhan o Gymdeithas Gofal Sir Benfro yn homeshare.pembrokeshirecaresociety.co.uk