Rydw i wedi bod wrth fy ngwaith fel Swyddog Datblygu Rhannu Cartref Cymru ers ychydig dros ddeufis ac rydw i wrth fy modd o gael y cyfle i ddod â’r rhaglen ragorol hon i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi’n hariannu am dair blynedd i ddatblygu tair rhaglen beilot Rhannu Cartref ledled Cymru, sy’n gyffrous dros ben.

Rydym ni’n gwneud gwaith dichonoldeb o hyd law yn llaw â chodi ymwybyddiaeth o Rannu Cartref ymhlith unigolion a sefydliadau. Rydym ni wedi cael ymateb gwych o’n harolygon Rhannu Cartref. Hyd yma, mae 97% o ymatebwyr wedi dweud y byddent yn cofrestru ar gyfer rhaglen Rhannu Cartref pe bai un yn eu hardal. Hefyd, er mai’r rhent is oedd yn cael ei ystyried fel prif fantais Rhannu Cartref, roedd gwneud ffrind newydd yn ail agos, ac mae hyn yn atgyfnerthu ffocws y model ar bontio’r cenedlaethau a pharodrwydd y genhedlaeth iau i feithrin cyfeillgarwch parhaol â phobl hŷn.

Mae’r ymateb gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn wedi datgelu bod:

  • 100% o ymatebwyr wedi dweud eu bod wedi dod ar draws pobl hŷn yn byw ar eu pen eu hunain gydag anghenion cymorth lefel isel
  • 100% yn cytuno bod y galw am wasanaethau cymorth lefel isel ar gyfer pobl hŷn wedi cynyddu yn y 5 mlynedd diwethaf
  • 57% yn dweud ei fod wedi cynyddu’n sylweddol
  • 100% yn dweud hefyd fod tystiolaeth bod pobl hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain yn eu hardaloedd gwaith yn teimlo’n fwyfwy ynysig.

Rydym ni wedi bod yn cyfarfod gyda sefydliadau a chynnal cyflwyniadau er mwyn codi ymwybyddiaeth o Rhannu Cartref. Er nad ydym ni wedi cadarnhau eto union leoliadau’r tair rhaglen beilot, rydym ni wedi cynnal cyfarfodydd positif dros ben gyda llawer o sefydliadau sy’n dangos diddordeb mewn cynnal rhaglenni Rhannu Cartref. Yn amlwg, mae’n ddyddiau cynnar iawn, gyda llawer i’w ystyried ond mae’r ymateb wedi bod yn galonogol iawn gyda phobl yn croesawu’r model a’i ymateb arloesol i bobl yn teimlo’n ynysig a fforddiadwyedd llety.

Rydym ni hefyd wedi bod yn weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol a rhoi cyhoeddusrwydd i’r rhaglen ynghyd ag arolygon. Gallwch weld ein taflenni Rhannu Cartref Cymru yma Cymraeg Saesneg.

Os nad ydych chi wedi cwblhau un o’n harolygon ond am wneud, dilynwch y dolenni canlynol:

Arolwg Deiliad Tŷ/Person Hŷn https://www.surveymonkey.co.uk/r/29M5JYG

Arolwg sefydliadol https://www.surveymonkey.co.uk/r/WalesOrgSurvey

Cysylltwch os ydych chi am gael clywed mwy am Rhannu Cartref a’i ddatblygiad yng Nghymru.

Tim Crahart

tim@sharedlivesplus.org.uk            07867 452 159