Yr wythnos hon, mae’r ail gwasanaeth Rhannu Cartref yng Nghymru yn dechrau; bydd Rhannu Cartref Gwynedd yn paru pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain ac sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i barhau i fyw’n annibynnol gartref, gyda’r rhai sy’n chwilio am lety fforddiadwy yng Ngwynedd a’r cyffiniau.
Yr wythnos hon, mae’r trydydd gwasanaeth Rhannu Cartref yng Nghymru yn dechrau; bydd Rhannu Cartref Gwynedd yn paru pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain ac sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i barhau i fyw’n annibynnol gartref, gyda’r rhai sy’n chwilio am lety fforddiadwy yng Ngwynedd a’r cyffiniau.
Nod y rhaglen yw mynd i’r afael â phroblemau allweddol mewn cymdeithas fel unigrwydd a theimlo’n ynysig yn ogystal â’r argyfwng tai. Yng Nghymru, dywedodd 54% o bobl rhwng 60-74 a 49% o bobl 75+ oed eu bod yn teimlo’n unig weithiau (ONS) ond eu bod eisiau parhau i fyw gartref am gyfnod hirach. Mae pobl iau yn cael eu prisio allan o’r pentrefi, trefi, a dinasoedd lle maent eisiau byw, i weithio neu astudio. Mae’r ffigurau diweddaraf unwaith eto’n dangos bod y cyfartaledd oedran y gall pobl adael cartref, hyd yn oed i rentu, yn codi ynghyd â chyfran yr incwm sy’n cael ei wario ar dai. Mae llawer o bobl ganol oed a hŷn hefyd yn canfod hunain heb opsiynau tai fforddiadwy ar ôl effaith y pandemig.
Mae Homeshare UK a Rhannu Cartref Gwynedd, rhan o Gyngor Gwynedd yn lansio’r drydedd raglen beilot yng Nghymru i gynnig cyfle i fwy o bobl fyw yn gymdeithasol ac yn fforddiadwy beth bynnag eu hoedran.
Ymunwch â Rhannu Cartref Gwynedd a Homeshare UK ar-lein ar gyfer y lansiad ddydd Mercher 11 Ionawr rhwng 1-2pm.
I holi am Rannu Cartref yng Ngwynedd, cysylltwch â rhannucartref@gwynedd.llyw.cymru