Yr wythnos hon, mae’r ail wasanaeth Rhannu Cartref yn dechrau, a bydd Rhannu Cartref Sir Benfro yn paru pobl sy’n byw ar eu pen eu hunain ac sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol i barhau i fyw yn annibynnol gartref gyda’r rhai sy’n chwilio am lety fforddiadwy yn Sir Benfro a’r cyffiniau.

Nod y rhaglen yw mynd i’r afael â phroblemau allweddol mewn cymdeithas fel unigrwydd a theimlo’n ynysig, ynghyd â’r argyfwng tai. Yn Sir Benfro, mae 26.17% o’r boblogaeth dros 65 oed (Ystadegau Llywodraeth Cymru 2020) a ledled Cymru, dywedodd 54% o bobl 60-74 oed a 49% o bobl 75+ oed eu bod yn teimlo’n unig ar adegau (ONS). Mae pobl ifanc yn cael eu prisio allan o’r pentrefi, trefi a dinasoedd maen nhw eisiau byw, astudio a gweithio ynddyn nhw. Dengys y ffigurau diweddaraf unwaith eto bod yr oedran cyfartalog y gall pobl adael cartref hyd yn oed i rentu yn codi ynghyd â chyfran yr incwm sy’n cael ei wario ar dai. Mae llawer o bobl ganol oed a hŷn hefyd yn gweld nad oes ganddyn nhw opsiynau tai fforddiadwy ar ôl effaith y pandemig.

Mae Homeshare UK, a Rhannu Cartref Sir Benfro, rhan o Gymdeithas Gofal Sir Benfro, yn lansio ail raglen beilot yng Nghymru i gynnig y cyfle i fwy o bobl fyw yn gymdeithasol ac yn fforddiadwy beth bynnag eu hoedran.

Meddai Dean Flood o Gymdeithas Gofal Sir Benfro:

“Gydol fy mywyd gwaith rydw i wedi cwrdd â phobl hŷn sydd â chymaint i’w roi ac sy’n cynnig gwasanaeth gwych i’w cymunedau. Maen nhw’n annibynnol ac yn gymdeithasol a dydyn nhw ddim yn dibynnu ar wasanaethau gofal cymdeithasol. Yn anffodus, mae llawer yn cael anawsterau gan eu bod ar eu pen eu hunain. Fodd bynnag, gallai eu bywydau wella cymaint, dim ond drwy gael rhywfaint o gymorth a chwmnïaeth y mae pawb ei eisiau ac yn ei haeddu.”

Ymholiadau i Rhannu Cartref Sir Benfro